Canolfan Adnoddau

Astudiaethau Achos o Gymunedau Cefnogol i Bobl â Dementia

Ar y dudalen hon fe welwch astudiaethau achos o ychydig o’r gwaith gwych sy’n mynd rhagddo mewn cymunedau i gefnogi pobl sy’n byw â dementia a’r rheini sy’n gofalu amdanynt. Ceir yma syniadau, ysbrydoliaeth a manylion cysylltu i’ch helpu yn eich gwaith eich hun.

A ydych chi’n gwybod am brosiect neu gynllun y dylem roi sylw iddo? Rhowch wybod inni.

Cymunedau Cefnogi Pobl â Dementia

  • AWS: Emma (cym)

    Emma: Dementia GO

    Emma Quaeck yw Rheolwr Prosiect Dementia GO, cynllun gweithgareddau corfforol a chymorth i bobl sy’n byw â dementia a’u gofalwyr. Mae hi hefyd yn Hyrwyddwr Cyfeillion Dementia ac yn Gadeirydd Cymunedau Dementia Gyfeillgar Porthmadog.

    Lawrlwytho

  • AWS: Lisa (cym)

    Lisa: Dementia a Dychymyg

    Mae Lisa yn artist proffesiynol sy’n byw yng Ngogledd Cymru. Mae Lisa wedi cydweithio a phobl sy’n byw â dementia fel rhan o brosiect Dementia a Dychymyg.

    Download

  • AWS: Prestatyn Artisans Collective (cym)

    Pete & Steve: Prestatyn Artisans Collective

    Mae Pete a Steve yn gwirfoddoli gyda Prestatyn Artisans Collective, canolfan gelf a chrefft sydd wedi ei lleoli yn yr Hen Lyfrgell, Prestatyn sy’n cefnogi ystod o weithgareddau a grwpiau cymunedol.

    Lawrlwytho

  • AWS: Rhiannon (cym)

    Rhiannon: Cymuned Dementia Gyfeillgar Aberhonddu

    Mae Rhiannon yn un o sylfaenwyr Cymuned Dementia Gyfeillgar Aberhonddu a Dementia Matters ym Mhowys.

    Lawrlwytho

  • AWS: Sharon (cym)

    Sharon: Amgueddfa Cymru

    Sharon yw Rheolwr Dysgu, Cyfranogi a Dehongli Amgueddfa Cymru, ac mae wedi bod yn arwain y gwaith o sicrhau bod ein Hamgueddfeydd Cenedlaethol yn fwy oed gyfeillgar.

    Lawrlwytho

  • AWS: Stuart (cym)

    Stuart: Clwb Pêl-droed Wrecsam

    Mae Stuart yn aelod o Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Pêl-droed Wrecsam, ac mae wedi bod yn rhan allweddol o’r gwaith o sicrhau bod y clwb yn lleoliad sy’n Ddementia Gyfeillgar.

    Lawrlwytho

  • AWS: Teresa (cym)

    Teresa: Wyneb Cyfeillgar

    Mae Teresa yn ymgyrchu dros hawliau pobl sy’n byw â dementia. Ynghyd â ffrind iddi, mae hi wedi sefydlu “A Friendly Face”, cynllun cymorth cymheiriaid ar gyfer pobl yn Sir y Fflint sydd wedi cael eu diagnosio â dementia.

    Lawrlwytho

  • Brecon Dementia Friendly Community - video (cym)

    Ffilm fer i’ch ysbrydoli am sut mae Aberhonddu a’r Gelli yn gweithio gyda’i gilydd i ddod yn gymuned gyfeillgar i bobl â dementia. Fe’i cynhyrchwyd gan Communications PCC*.

  • North Wales dementia meet-up - video (cym)

    Fideo gwych o ddigwyddiad yn dangos pobl sy’n byw â dementia yn cymryd rhan ac yn ymgysylltu yn wirioneddol, gan roi llais iddyn nhw ar y materion sydd o bwys iddyn nhw. Cynhyrchwyd gan Fran O'Hara*.

  • Eloquent brain - video (cym)

    Prosiect celf sy’n pontio’r cenedlaethau gyda phobl â dementia yn cymryd rhan ac wedi’i drefnu gan Lisa Carter fel rhan o’r Prosiect Dementia a’r Dychymyg*.

  • Intergenerational arts and dementia - video (cym)

    Prosiect sy’n cael ei redeg fel rhan o Gymuned Gyfeillgar i Ddementia Aberhonddu a oedd yn defnyddio’r celfyddydau ar gyfer prosiect sy’n pontio’r cenedlaethau gan weithio gyda phobl sy’n byw â dementia*.

  • Llanfaes Primary School in Brecon - video (cym)

    Sut mae Ysgol Gynradd Llanfaes yn Aberhonddu yn cyfrannu at y gwaith o wneud Aberhonddu a’r Gelli yn gyfeillgar i bobl â dementia. Ffilm wedi’i chynhyrchu gan Communications PCC*.

  • Music & memories – video (cym)

    Prosiect sy'n cael ei gynnal fel rhan o Gymuned Ystyriol o Ddementia Aberhonddu sy'n archwilio grym cadarnhaol cerddoriaeth a chanu.

  • Dementia Cafés (cym)

    Caffis Dementia

    Caffis Dementia yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Powys a Wrecsam.

    Lawrlwytho

  • Dementia RED (cym)

    RED (Parch, Empathi, Urddas) Dementia

    Mannau cyswllt a gwybodaeth am ddementia mewn meddygfeydd meddygon teulu yng Ngogledd Sir Ddinbych.

    Lawrlwytho

  • GP Pathfinder Project (cym)

    Prosiect Braenaru meddygon teulu

    Llwybr gofal i bobl sy’n byw â dementia sy’n cael ei ddatblygu yn Sir Gaerfyrddin.

    Lawrlwytho

  • Llys Jasmine extra care facility (cym)

    Cyfleuster gofal ychwanegol Llys Jasmine

    Prosiect tai yn Sir y Fflint sy’n cynnig fflatiau wedi’u dylunio ar gyfer pobl sy’n byw â dementia.

    Lawrlwytho

  • Lost in Art project (cym)

    Ar goll mewn Celfyddyd

    Prosiect celf gweledol i bobl sy’n byw â dementia a’u teuluoedd yn Sir Ddinbych.

    Lawrlwytho

  • Musical memories (cym)

    Côr Musical Memories

    Grŵp yn Abertawe sy’n defnyddio pŵer caneuon i helpu pobl â dementia a’u gofalwyr.

    Lawrlwytho

  • Swansea Dementia Supportive Community Gala Concert (cym)

    Cyngerdd Gala Abertawe fel Cymuned Gefnogol i Bobl â Dementia

    Cyngerdd gala a gynhelir yn Abertawe i gydnabod y ddinas sy’n gweithio i fod yn gyfeillgar i bobl â dementia.

    Lawrlwytho

  • Creating a dementia friendly York (cym)

    Creu dinas Efrog sy’n gyfeillgar i ddementia

    Adroddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree ar ei brosiect Dementia Without Walls yn Efrog, ynghyd â chanllawiau defnyddiol ar sefydlu cymuned sy’n cefnogi pobl â dementia.*

    Lawrlwytho

*Ar gael yn Saesneg yn unig